2018 Rhif (Cy. )

ymadael â’r undeb ewropeaidd

Diogelu’r amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2018 Rhif (Cy. )

Ymadael â’r undeb ewropeaidd

Diogelu’r amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.

Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “ac fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996;” rhodder “, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”; a

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad at un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru..

(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cyfeiriad at Atodiad I i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff 1, yn y pedwerydd mewnoliad sydd yn cychwyn “the day is 12 hours”, y geiriau o “The Member States” hyd at y diwedd wedi eu hepgor..

(4) Yn lle rheoliad 15(1)(a) rhodder—

(a) amcanu i atal a lleihau sŵn amgylcheddol pan fo’n angenrheidiol ac yn benodol pan fo lefelau bod o fewn clyw sŵn yn gallu achosi effeithiau niweidiol ar iechyd dynol;

(aa) amcanu i ddiogelu ansawdd sŵn amgylcheddol pan fo’n dda;.

(5) Yn rheoliad 22—

(a)     ym mharagraff (2)(b), yn lle “y Gyfarwyddeb” rhodder “gyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir([3])”; a

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 4 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir;.

(6) Yn rheoliad 26(4)(b)

(a)     ym mharagraff (i) hepgorer “neu”; a

(b)     hepgorer paragraff (ii).

(7) Yn Atodlen 1—

(a)     ym mharagraff 1—

                            (i)    ailrifer y testun presennol yn is-baragraff (1); a

                          (ii)    ar ôl yr is-baragraff (1) newydd mewnosoder—

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at baragraffau 1.5, 1.6 a 2.6 o Atodiad VI i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—

(a)   ym mharagraff 1.5, fel pe bai’r cyfeiriad yn y paragraff hwnnw at “major roads”, “major railways” a “major airports” fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at “major road” (“prif ffordd”), “major railway” (“prif reilffordd”) a “major airport” (“prif faes awyr”) fel y’u diffinnir yn rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn; a

(b)   ym mharagraffau 1.6 a 2.6, fel pe bai’r geiriau o “These data” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.;

(b)     ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae cyfeiriad at Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi eu hepgor—

(a)   ym mharagraff 4, y mewnoliad cyntaf;

(b)   ym mharagraff 5, y geiriau o “concerning” hyd at “Commission”; ac

(c)   paragraff 9.

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2006/2629 (Cy. 225), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/47 (Cy. 15).

([3])           Mae cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir yn cynnwys Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/2629), Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (yr Alban) 2006 (O.S.A. 2006/465) a Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Gogledd Iwerddon) 2006 (Rh.S. 2006, Rhif 387).